Rydym yn fand gwerin/roc, wedi ein dylanwadu gan gerddoriaeth draddodiadol a modern. Rydym yn mwynhau cyfuno’r ddau i greu ein sain ein hunain, chwarae caneuon gwreiddiol ein hunain a hefyd ein fersiynau ni o ganeuon pobl eraill. Mae pump ohonom yn y band: Paul, Matthew, James, Sean a Daniel. Cychwynom chwarae gyda’n gilydd tua 7 mlynedd yn ôl, dim ond tri ohonom: Paul, Matthew a James ac roeddem yn perfformio’n achlysurol mewn gigiau at achosoion da. Ymunodd Sean tua 5 mlynedd yn ôl a Daniel 3 blynedd yn ôl. Ers hynny, rydym wedi perfformio mewn amrywiaeth eang o gigs yn cynnwys digwyddiadau corfforoaethol, sawl ymddangosiad ar y teledu, Radio’r BBC / Môn FM / Radio’r Alban/ Radio Cenedlaethol Iwerddon ‘RTE Rnag’, amrywiol ŵyliau, digwyddiadau coffa, seremonïau gwobrwyo cenedlaethol, priodasau, cyngherddau codi arian at achosion da, gwestai, clybiau, tai tafarnau a nifer o ddathliadau preifat. Rydym hefyd wedi teithio llawer gyda’n cerddoriaeth drwy Gymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr a Chanada.
Cawsom ein geni a’n magu yng Nghaergybi, ar Ynys Cybi, sydd ar ochr orllewinol Ynys Môn. Rydym i gyd yn gallu siarad Cymraeg ac yn perfformio mewn Cymraeg a Saesneg.
Fe waneth Recordiau Sain roi cyfle i ni recordio dwy gân y llynedd sy’n cael eu chwarae erbyn hyn ar Radio Cymru, Radio Wales a Môn FM.
Mae Sain wedi gofyn i ni fynd yn ôl i recordio dwy gân arall ac rydym ni am wneud hynny’n fuan. Rydym yn bwriadu recordio ein halbwm cyntaf cyn diwedd 2019.
Paul
Paul yw arweinydd y band ac mae’n canu’r gitar arweiniol, ffidil, mandolin, banjo ac yn ysgrifennu cerddoriaeth. Ef sy’n cyflwyno’r gerddoriaeth a’i frodyr i’r gynulleidfa wrth berfformio.
Fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi, Ysgol Uwchradd Bodedern a Phrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae’n athro yn yr ysgol Uwchradd yr oedd yn arfer ei mynychu!
Mae Paul yn hoff iawn o chwarae rygbi. Mae’n chwarae rygbi’r undeb i Glwb Llangefni a rygbi’r Gynghrair i Gaer a Gogledd Cymru. Mae’n hyfforddwr ac yn ddyfarnwr rygbi ac yn mwynhau pob math o chwaraeon.
Mae hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth byw a’i uchelgais yw parhau i ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth gan chwarae mwy a mwy o’i gerddoriaeth ei hun.
Matthew
Mae Matthew yn canu’r gitar fas a gitar acwstig, y ffidil ac yn canu.
Fe dderbyniodd ef hefyd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Morwsyn ac Ysgol Uwchradd Bodedern. Symudodd wedyn i astudio ym Mhrifysgol Lerpwl yn yr Ysgol Bensaernïaeth er mwyn cael dod yn Bensaer Siartredig – cwrs 7 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae yn ei bedwerydd flwyddyn a bydd yn cychwyn ei bumed flwyddyn fis Medi 2019.
Mae Matthew yn mwynhau nofio, rhedeg a chwarae sboncen. Mae’n mwynhau yr awyr agored / lan y môr a cherdded y mynyddoed pan fydd adref ar Ynys Môn.
Gan ei fod yn astudio’n Lerpwl, nid yw bob amser ar gael i berfformio gyda’r band, ond mae wrth ei foddd yn cael gwneud hynny pan mae’n gallu! Mae Matthew wedi mwynhau cyfarfod llawer o bobl ddiddorol wrth i’r band gael gwahoddiad i berfformio dros y byd i wneud amrywiaeth o gigiau mewn nifer o leoliadau gwahaol.
James
Mae James yn yr Ysgol Uwchradd o hyd ac wedi mynychu yr un ysgolion a’i frodyr.
Ei brif offeryn yw’r ffidil ac mae wrthi’n paratoi at arholiad Gradd 8. Mae’n canu’r ffidil yn y band ond hefyd yn gallu canu piano, mandolin a’r iwcalili. Mae hefyd yn canu ac yn cynorthwyo gyda’r harmoniau yn y perfformiadau.
Mae James yn gobeithio aros yn y Chweched Dosbarth i astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth ac yn y dyfodol byddai’n hoffi astudio Perianneg. Mae’n mwynhau chwaraeon – pêl-droed a rygbi ond hefyd yn hoff o redeg a nofio. Mae’n mwynhau perfformio yn y band – yn arbennig cael ymweld â nifer o lefydd gwahanol wrth berfformio ac mae wedi gwneud nifer o ffrindiau da drwy berfformio.
Mae James yn bwriadu parhau i chwarae’r ffidil ond hefyd eisiau arbrofi gyda gwahanol offerynnau er mwyn dod â sain gwahanol i rai o’r caneuon.
Sean
Sean yw offerynnwr taro’r band! Mae’n gallu chwarae amrywiaeth o ddrymiau, y cit llawn ond hefyd cahon, bongos a’r congos. Mae hefyd yn canu’r ffidil; ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer arholiad Gradd 6, hefyd yn chwarae’r chwiban Wyddelig, trwmped ac wedi cychwyn chwarae gitar drydan. Mae’n gallu canu’n unigol a hefyd harmoniau gyda’i frodyr.
Mae wedi derbyn ei addysg fel ei frodyr ac yn mynychu Ysgol Uwchradd ar hyn o bryd. Mae Sean yn mwynhau chwarae rygbi’n fawr – i glwb Llangefni ac i dîm yr ysgol. Mae’n mwynhau pêl-fasged, nofio, beicio a’r clwb cerddoriaeth yn yr ysgol (sydd yn cael ei gynnal gan Paul!!).
Nid yw’n siŵr beth hoffai ei wneud yn y dyfodol – ond mae’n gobeithio y bydd yn rhywbeth cyffrous !! Mae’n mwynhau perfformio gyda’i frodyr ac yn hoff iawn o ymweld â llefydd newydd wrth berfforio gyda’r band. Mae’n arbennig o hoff o berfformio mewn digwyddiadau ble mae bwyd yn cael eu gynnig! Mae gan Sean ddiddordeb mawr mewn bwyd a choginio!
Mae Sean yn gobeithio parhau i chwarae’r drymiau, ffidil a mwy ar y gitar yn y dyfodol. Byddai hefyd yn hoff o gydweithio gyda Paul wrth ysgrifennu caneuon newydd.
Daniel
Daniel yw aelod ieuengaf y band. Y ffidil yw ei brif offeryn – mae’n paratoi at arholiad Gradd 5 ar hyn o bryd. Mae hefyd yn canu gitar fas, piano, chwiban Gwyddelig, Cahon, Bongos, tamborin a’r trymbon. Mae’n canu’n unigol yn y gigiau ac yn canu harmoniau gyda’i frodyr yn rhan fwyaf o’r caneuon.
Mae Daniel dal yn yr ysgol gynradd yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Gymraeg Morswyn. Mae’n mwynhau cymryd rhan yn holl weithgareddau’r Urdd ac mae amser Eisteddfod yn amser prysur iawn iddo.
Mae’n mwynhau nofio – yn arbennig yn y môr! Mae hefyd yn mwynhau pêl-droed, golff, rhedeg a phêl fasged. Mae mwynhau gwylio ffilmiau a chwarae gemau yn ei amser hamdden.
Mae Daniel yn mwynhau perfformio gyda’i frodyr ac yn arbennig cael ymweld â nifer o lefydd cyffrous y mae’r band yn cael gwahoddiad i berfformio ynddynt.
Mae Daniel eisiau parhau i ganu’r ffidil, piano, chwiban Gwyddelig ac offerynnau taro a hefyd byddai’n hoffi canu’r piano neu allweddell yn y band yn y dyfodol agos.